Friday 9 February 2018

Ymgyrch i gydsefyll gyda’r Bataliwn Cydwladol dros Ryddid yn Rojava



Yr Alwad

Yng nghalon y Dwyrain Canol, mae pobloedd Rojava (Cwrdistan Syriaidd) wedi codi yn erbyn y grymoedd adweithiol sydd yn eu gormesu ers degawdau. Wedi rhyddhau Rojava rhag Daesh, mae trigolion Rojava, a’r chwyldroadwyr estron niferus a aeth yno i’w cefnogi, bellach yn poeni am yr imperialwyr Americanaidd, ac am NATO, yn ogystal ag am lywodraethau adweithiol a ffasgaidd yn y Dwyrain Canol : Twrci, Sawdi-Arabia ac Irán. Bellach mae’r rhain i gyd yn ymyrryd yn yr ardal ac yn bomio yno. Wrth wneud hyn, maent yn dilyn yr un strategaethau ag a greodd lawer o’r grwpiau Islamiaethol, fel Daesh, Al Qaeda ac Al Nusra. Mae’r gwledydd cyfalafaidd a greodd y grwpiau hyn, ac a roddodd fywyd iddynt, bellach wedi colli rheolaeth drostynt.

Mae gelynion y bobl yn ei chael yn anodd iawn i roi terfyn ar yr ymdrech dros ryddid a gychwynnwyd gan bobloedd Rojava, hyd yn oed drwy ddefnyddio eu harfau arferol : lladd drwy fomio, drwy daro sifiliaid, drwy fynd â thorfaoedd o ymgyrchwyr chwyldroadol i’r ddalfa, a thrwy ymosod o hyd ar herwfilwyr y bobl. Mae’r ymdrech hon yn mynd yn ei blaen yn Rojava, yng Nghwrdistan a thrwy’r Dwyrain Canol i gyd. Erbyn hyn, menywod arfog Rojava yw hunllef waethaf y grymoedd Islamiaethol.

Wedi iddi gasglu ynghyd ei chynghreiriaid hanesyddol arferol, sef UDA, NATO, yr UE, y CU, democratiaid sosialaidd a llywodraethau adweithiol, dechreuodd Twrci ar ymgyrch ormesol helaeth drwy’r tiriogaethau Cwrdaidd yn Nhwrci, yn Irác ac yn Syria. Eu prif nod yw dinistrio uchelgais chwyldroadaol pobloedd orthrymedig Rojava.

Cefnogwn y Bataliwn Cydwladol dros Ryddid. Mae hwn yn casglu ynghyd yr ymladdwyr Comiwynyddol, anarchaidd a gwrthffasgaidd a aeth i amddiffyn Rojava, yn ysbryd y Brigadau Cydwaladol a fu’n amddiffyn Sbaen yn 1936. Dangoswn ein cefnogaeth wleidyddol ac ariannol drwy gyllido rhwymiadau hemostatig. Mae 60% o’r rhai a gaiff eu clwyfo drwy saethu yn gwaedu i farwolaeth wrth aros am ofal. Mae’r rhwymiadau hyn yn atal y gwaedu yn gyflym a’u pris yw 40€ yr un.

Cefnogwn ymdrech chwyldroadol pobloedd Rojava, a mannau eraill, yn erbyn Islamiaeth, UDA,

NATO a’r gwladwriaethau adweithiol !


THE WELSH SOCIALIST REPUBLICAN CONGRESS SAYS





 VISIT AND SUPPORT KURDISH CAMPAIGN HERE: